OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2225 (Cy. 214)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), sy’n nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r cyfeiriad at y ddogfen hyfforddi “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” yn Rheoliadau 2013.
Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2013 drwy roi paragraff (1) newydd yn lle’r un presennol, sy’n amlinellu pa ran o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion (naill ai Rhan 1 neu Ran 2) sy’n ofynnol gan lywodraethwyr ysgolion gan ddibynnu ar y math o ysgol.
Effaith y diwygiad hwn yw y bydd yn ofynnol i lywodraethwyr ysgolion arbennig cymunedol gwblhau hyfforddiant gwahanol i’r hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgolion eraill a gynhelir.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2225 (Cy. 214)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 20 Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Awst 2014
Yn dod i rym 19 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 19 a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) ac adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion
a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru)
(Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 19 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “dogfen 2013” (“the 2013 document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o’r enw “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”([3]).
Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013
2.—(1)(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir
(Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013([4]) wedi eu diwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“the school performance data training”) yn lle “mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””, rhodder “mis Awst 2014 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion([5])””.
(3) Yn rheoliad 5 yn lle paragraff (1) rhodder—
“5.—(1) Pan fo llywodraethwr wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i’r llywodraethwr hwnnw, cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”), gwblhau—
(a) Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion os yw’n llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir; neu
(b) Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion os yw’n llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol.
(1A) Pan fo llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir sydd wedi cwblhau Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau yn dod yn llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol, nid yw’n ofynnol i’r llywodraethwr hwnnw gwblhau Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion.
(1B) Pan fo llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol sydd wedi cwblhau Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau yn dod yn llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir, nid yw’n ofynnol i’r llywodraethwr hwnnw gwblhau Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion.”
Darpariaeth arbed
3. Nid oes unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion fel a nodir yn nogfen 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Awst 2014